Cyngor Bro Llanfihangel Glyn Myfyr
Cofnodion y cyfarfod or Cyngor a gynhaliwyd ar 15fed o Fedi 2026
Yn bresenol oedd Gethin Jones, Generys Roberts, Arwyn Ellis a Helen Jones (cadeirydd) cafwyd ymddiheuriadau gan Eryl Evans, Llyr Jones a Cygh Gwennol Ellis.
Darllenwyd y cofnodion blaenorol ac fe’u harwyddwyd fel rhai cywir.
Datgan diddordeb ir AGENDA - neb
Gohebiaeth
1. G Carter - anfoneb am wneud y gwaith paentio y rallings yr Eglwys £650.00 pasiwyd iw dalu.
2. Emyr Mortimer - anfoneb am wneud gwaith archwilio mewnol - £480.00 pasiwyd iw dalu.
3. Emyr Mortimer - Arwyddo llythyr penodi archwilydd mewnol.
4. Asesiad Risg – wedi ei nodi ac eu harwyddo.
5. Cronfa Effaith Balchder Bro Conwy – wedi cael sicrhad o grant arian o £17,000.00 tuag at Llesiant Llanfihangel yn y Gro.
6. Fferm Wynt Clocaennog - wedi cael addewid o grant arian o £15,411.00 tuag at Llesiant Llanfihangel yn y Gro.
7. Archwilio Cymru – anfoneb am yr awdit llawn 24/25 £859.00 pasiwyd iw dalu.
8. Dwr Cymru - anfoneb £102.86 wedi ei dalu DD
9. Lelo Sgip - anfoneb am y sgip yn Mis Mai £312.00
10. Carol Humphreys - anfoneb am blannu blodau yn y potiau ger y safle bws £28.45 pasiwyd iw dalu.
11. Cyngor Sir Conwy - Precept £2,500 (ail daliad)
12. Unrhyw fater arall
13. Tan Gwyllt pasiwyd iw gynnal ar 5ed o Dachwedd am 6.00 yr hwyr.
14. Sgip – pasiwyd i gael sgip ar 7fed o Dachwedd
15. Swper Henoed – pasiwyd i gael swper Dolig ar 26 o Dachwedd am 7.00
16. Cyfraniad ir Llyfrgell – pasiwyd iw dalu £596.00